Y Parlwr

Ystafell hyfryd i gynnal eich digwyddiad

DIWEDDARIAD: Ar hyn o bryd mae’r Parlwr yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu prosiect Ffiws, ond bydd ar gael eto fel ystafell aml-bwrpas yn y dyfodol. Cysylltwch gyda ni am fwy o wybodaeth ac argaeledd. Gofod Gwneud cydweithredol sydd wedi cael ei leoli yn Y Parlwr yn Yr Orsaf ydi Ffiws. Mae’r gofod yn cynnwys amryw o wahanol offer uwch-dechnolegol yn ogystal â offer electroneg ac offer llaw.

Mae Y Parlwr yn ystafell aml-bwrpas sydd ar gael i’w logi. Defnyddir yr ystafell ar gyfer amryw o ddigwyddiadau gan gynnwys gweithgareddau, cyfarfodydd a phartïon. Mae'r defnyddwyr yn cynnwys aelodau Siop Griffiths ei hun, gweithgareddau ar y cyd gyda'n partneriaid, a mudiadau eraill. Gall ddal rhwng 12 a 24 o bobl, yn dibynnu ar y defnydd.

Mae’r Parlwr yn ystafell gyfforddus a chartrefol sydd wedi ei leoli yn yr un adeilad a’r caffi a’r llety. Gellir addasu lleoliad y byrddau a chadeiriau i siwtio eich anghenion. Mae cyswllt di-wifr am ddim ar gael, yn ogystal â theledu 55” ar gyfer gwneud cyflwyniadau. Gellir archebu cinio o’r caffi a’i fwyta yn Y Parlwr os dymunir.

Hyd yn hyn dyma restr o’r digwyddiadau a gynhaliwyd yma:

  • Noson Swisho - digwyddiad cyfnewid dillad a siopa’n gynaliadwy
  • Gig - cerddoriaeth byw
  • Cyfarfodydd
  • Hyfforddiant athrawon
  • Ymweliad addysgiadol yn cynnwys picnic
  • Gweithdy creu gemwaith
  • Clwb crefft wythnosol - Pontio’r Cenedlaethau
  • Clwb gwau a chrosio wythnosol
  • Cwrs Datblygu Arweinwyr Cymunedol

I ymholi am ddyddiadau a'r telerau, cysylltwch â'n Swyddog Datblygu a Marchnata - Greta:

[email protected]

07529224989

Y Parlwr Y Parlwr Y Parlwr

Eisiau’r newyddion diweddaraf?

Hoffech chi glywed am y newyddion diweddaraf gan Yr Orsaf? Tanysgrifiwch i dderbyn ein newyddlen drwy ebost.

Gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut rydym yn trin eich gwybodaeth darllenwch ein polisi preifatrwydd.