Cartref

Croeso i’r Orsaf. Lle i fwyta, aros, datblygu sgiliau creadigol a chyfrannu at y gymuned.

Mae’r Orsaf yn byrlymu gyda phobl yn ymgynnull i gymdeithasu a bwyta, cymryd rhan mewn gweithdai creadigol, datblygu sgiliau digidol a llawer mwy.

Mae adeilad Yr Orsaf wedi'i lleoli yng nghanol pentref Penygroes, Dyffryn Nantlle. 

Fe achubwyd yr hen adeilad gan griw o wirfoddolwyr yn 2016 a sefydlwyd pwyllgor gyda'r enw Siop Griffiths Cyf. Ein nod yw sicrhau bod yr adeilad hanesyddol hwn yn aros yn nwylo'r gymuned, er lles y gymuned. 

Yn y gorffennol bu'r adeilad yma'n dafarn prysur cyn troi'n siop haearnwerthwyr gyda'r enw Siop Griffiths. 

Ond, erbyn hyn mae'r Orsaf yn llawer mwy nag adeilad. Mae'n hwb cymunedol pwysig yn y Dyffryn sy'n cynnig cyfleoedd gwerthfawr i blant, pobl ifanc ac oedolion ac yn cynnig swyddi i drigolion yr ardal. 

Erbyn hyn mae'r Orsaf yn gartref i gaffi, llety 3 ystafell, ystafell aml-bwrpas, canolfan digidol a swyddfeydd i'r staff. Yn ogystal a hyn, mae amryw o brosiectau ar y gweill- o'n Pantri Cymunedol i'n Gweithdy Cerddoriaeth, mae rhywbeth at ddant bawb.  

Mae'r fenter yn mynd o nerth i nerth ac erbyn hyn mae llu o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn digwydd yma a chynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol. 

Caffi

Caffi

Mae caffi Yr Orsaf wedi datblygu’n lleoliad poblogaidd i bobl y Dyffryn ac ymwelwyr. Yn ogystal â'r caffi yn ystod y dydd, mae'n datblygu fel lleoliad ar gyfer gigs, barddoniaeth a ffilmiau yn ystod y nos.

Bwydlen
Aros

Aros

Agorodd y llety newydd yn Ebrill 2021. Ceir 3 ystafell sydd wedi eu hadnewyddu a’u dylunio’n chwaethus a chyfforddus ar gyfer ymweliad unigryw â’r ardal.

Bwcio
Y Parlwr

Y Parlwr

Mae Y Parlwr yn ystafell sydd ar gael i'r gymuned. Mae'n cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau, cyfarfodydd a phartïon. Gall ddal rhwng 12 a 24 o bobl, yn dibynnu ar y defnydd.

Dysgu

Wyddoch chi?

Dros gyfnod o 3 mlynedd mae Siop Griffiths Cyf wedi codi £900,000. Mae'r arian wedi adnewyddu 3 adeilad, ac wedi agor caffi, llety, a chanolfan digidol i blant a phobl ifanc. Mae sawl prosiect cymunedol ar y safle hefyd, sy'n defnyddio degau o wirfoddolwyr i gyflawni budd cymunedol y fenter.

Eisiau’r newyddion diweddaraf?

Hoffech chi glywed am y newyddion diweddaraf gan Yr Orsaf? Tanysgrifiwch i dderbyn ein newyddlen drwy ebost.

Gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut rydym yn trin eich gwybodaeth darllenwch ein polisi preifatrwydd.