Aros

Llety yng nghanol ardal hyfryd Dyffryn Nantlle

Agorodd y llety newydd ym mis Gorffennaf 2021. Ceir 3 ystafell sydd wedi eu hadnewyddu a’u dylunio’n chwaethus a chyfforddus ar gyfer ymweliad unigryw â’r ardal.

Ystafell Dulyn (twin)

Ystafell sy’n cynnwys dau wely sengl gyda matresi moethus yn ogystal â dillad gwely o safon. Mae ystafell ymolchi breifat a chwaethus yn rhan o’r ystafell sy’n cynnwys toiled, sinc a chawod.

Darperir tywel fach a mawr i bob gwestai sy’n gynwysedig ym mhris yr ystafell. Mae lle o dan y gwlau i gadw bagiau a mae rac dillad chwaethus ar gyfer storio dillad ac esgidiau.

Mae cyswllt di-wifr am ddim yn yr ystafell yn ogystal â chyfleusterau te a choffi er mwyn sicrhau arhosiad cartrefol i’n gwesteion.

Gyda golygfeydd o ochr Orllewinol Crib Nantlle sy’n cynnwys mynyddoedd ‘Mynydd Graig Goch’, ‘Garnedd Goch’ a ‘Chraig Cwm Silyn’ yn amlwg o’r ffenestr, bydd yn siwr o’ch denu i’r mynyddoedd am dro.

Mae modd ehangu’r ystafell hon i greu adran breifat i 4 person gan ei baru gyda’r ystafell ddwbl drws nesaf (Llifon).

Ystafell Llifon (dwbl)

Mae’r ystafell hon yn berffaith i ddau gyda gwely dwbl a matres foethus yn ogystal â dillad gwely o safon.

Mae ystafell ymolchi breifat a chwaethus yn rhan o’r ystafell sy’n cynnwys toiled, sinc a chawod.

Darperir tywel fach a mawr i bob gwestai sy’n gynwysedig ym mhris yr ystafell. Mae lle o dan y gwlau i gadw bagiau a mae rac dillad chwaethus ar gyfer storio dillad ac esgidiau.

Mae cyswllt di-wifr am ddim yn yr ystafell yn ogystal â chyfleusterau te a choffi er mwyn sicrhau arhosiad cartrefol i’n gwesteion.

Ceir golygfa hyfryd o’r ystafell hon sy’n edrych draw ar ochr Orllewinol Crib Nantlle. Gellir gweld mynyddoedd ‘Mynydd Graig Goch’ a ‘Garnedd Goch’ yn amlwg o’r ffenestr, sy’n gwneud lleoliad yr ystafell hwn yn un unigryw a braf.

Mae modd ehangu’r ystafell hon i greu adran breifat i 4 person gan ei baru gyda’r ystafell 2 sengl drws nesaf (Dulyn).

Ystafell Silyn (dwbl a bync / teuluol)

Ystafell fawr sy’n cysgu 4 felly’n berffaith i deulu neu chriw o ffrindiau. Yn yr ystafell hon ceir un gwely dwbl moethus ac un bync yn ogystal â chadair a bwrdd.

Ceir dillad gwely o safon ar pob gwely a darperir tywel fach a thywel mawr i bob gwestai sy’n gynwysedig ym mhris yr ystafell. Mae lle o dan y gwlau i gadw bagiau a mae rac dillad chwaethus ar gyfer storio dillad ac esgidiau.

Mae ystafell ymolchi breifat a chwaethus yn rhan o’r ystafell hon sy’n cynnwys toiled, sinc, cawod a baddon.

Mae cyswllt di-wifr am ddim yn yr ystafell yn ogystal â chyfleusterau te a choffi er mwyn sicrhau arhosiad cartrefol i’n gwesteion.

Ceir dwy ffenestr yn yr ystafell hon- un yn edrych tuag at draeth Dinas Dinlle yn y Gorllewin a’r llall yn edrych ar ochr Orllewinol Crib Nantlle gyda’r mynyddoedd yn eu holl ogoniant.

Ystafelloedd

Dulyn Dulyn
Llifon Llifon
Silyn Silyn

Archebu

Mae croeso i chi gysylltu â Llety Yr Orsaf yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw ofynion neu ymholiadau pellach i’ch archeb. Cysylltwch i archebu: 07529 224989 / [email protected].

Cyrraedd Yr Orsaf

Mae modd cyrraedd o 3 o'r gloch y prynhawn ymlaen, ac mae angen bod allan cyn 10 y bore, os gwelwch yn dda. Dim ond ymwelwyr y llety gaiff fynd i'r llofftydd, ond bydd ymwelwyr eraill ar y safle pan mae'r Caffi ar agor ac mae staff Yr Orsaf ar y safle yn ystod y dydd, Llun-Gwener.

Cyffredinol

Nid ydym yn derbyn cŵn nac anifeiliaid eraill mewn unrhyw ran o’r adeilad.

Nid oes parcio ar y safle ar hyn o bryd ond mae digon o le ar y stryd gyfagos ac mae maes parcio am ddim yng ngwaelod y pentref, dros ffordd i'r Co-op .

Eisiau’r newyddion diweddaraf?

Hoffech chi glywed am y newyddion diweddaraf gan Yr Orsaf? Tanysgrifiwch i dderbyn ein newyddlen drwy ebost.

Gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut rydym yn trin eich gwybodaeth darllenwch ein polisi preifatrwydd.