Cartref
Croeso i’r Orsaf. Lle i fwyta, aros, datblygu sgiliau creadigol a chyfrannu at y gymuned.
Mae’r Orsaf yn byrlymu gyda phobl yn ymgynnull i gymdeithasu a bwyta, cymryd rhan mewn gweithdai creadigol, datblygu sgiliau digidol a llawer mwy.
Mae adeilad Yr Orsaf wedi'i lleoli yng nghanol pentref Penygroes, Dyffryn Nantlle.
Fe achubwyd yr hen adeilad gan griw o wirfoddolwyr yn 2016 a sefydlwyd pwyllgor gyda'r enw Siop Griffiths Cyf. Ein nod yw sicrhau bod yr adeilad hanesyddol hwn yn aros yn nwylo'r gymuned, er lles y gymuned.
Yn y gorffennol bu'r adeilad yma'n dafarn prysur cyn troi'n siop haearnwerthwyr gyda'r enw Siop Griffiths.
Ond, erbyn hyn mae'r Orsaf yn llawer mwy nag adeilad. Mae'n hwb cymunedol pwysig yn y Dyffryn sy'n cynnig cyfleoedd gwerthfawr i blant, pobl ifanc ac oedolion ac yn cynnig swyddi i drigolion yr ardal.
Erbyn hyn mae'r Orsaf yn gartref i gaffi, llety 3 ystafell, ystafell aml-bwrpas, canolfan digidol a swyddfeydd i'r staff. Yn ogystal a hyn, mae amryw o brosiectau ar y gweill- o'n Pantri Cymunedol i'n Gweithdy Cerddoriaeth, mae rhywbeth at ddant bawb.
Mae'r fenter yn mynd o nerth i nerth ac erbyn hyn mae llu o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn digwydd yma a chynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol.