Mae caffi Yr Orsaf wedi datblygu’n lleoliad poblogaidd i bobl y Dyffryn ac ymwelwyr. Yn ogystal â'r caffi yn ystod y dydd, rydym yn gobeithio parhau fel lleoliad ar gyfer digwyddiadau amrywiol fel gigs, barddoniaeth a ffilmiau yn ystod y nos hefyd. Cadwch lygad allan ar y wefan a'n cyfryngau cymdeithasol am fwy o wybodaeth!
Yn ogystal â’n bwydlen arferol, mae gennym ‘brydau arbennig’ amrywiol bob wythnos ac amrywiaeth o deisennau cartref ar y cownter yn ddyddiol.
*Diweddariad: Nosweithiau Bwyd Thai, Iau-Sadwrn, 5:30-10:00yh. Ffoniwch i archebu bwrdd: 07507 034500.
Dyma grynodeb o beth sydd ar gael yn ein caffi. Cliciwch isod i lawrlwytho ein bwydlenni.
Rydym yn gallu darparu ar gyfer partïon a digwyddiadau arbennig hefyd. I siarad gyda Jim Clack rheolwr y caffi ffoniwch: 07507 034500.
Dydd Mawrth i Ddydd Sadwrn (9:00 - 14:30) / Dydd Sul (12:00 - 16:00)
Hoffech chi glywed am y newyddion diweddaraf gan Yr Orsaf? Tanysgrifiwch i dderbyn ein newyddlen drwy ebost.
Gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut rydym yn trin eich gwybodaeth darllenwch ein polisi preifatrwydd.
Argraffwyd o www.yrorsaf.cymru ar 30/09/2023 06:46:33.
Siop Griffiths Cyf., Storfa Muriau, Heol Y Dŵr, Penygroes, Gwynedd LL54 6LWFfôn: 07529 222670E-bost: [email protected]