Amdanom Ni

Y stori hyd yma...

Yn 2010 caeodd Siop Griffiths, un o'r adeiladau hynaf ym Mhenygroes ar ol dros 100 mlynedd o fusnes. O 1828 i'r Rhyfel Byd Cyntaf bu'r adeilad yn dafarn o'r enw 'Stag's Head'. Wedyn, yn 1925, agorodd Siop Griffiths fel ironmongers, busnes teuluol am 85 mlynedd.

Ar ol i Siop Griffiths gau ei drysau yn 2010, roedd yr adeilad mewn perryg o droi'n adfail a bu'n wag am rhai blynyddoedd. Roedd yn golled enfawr i'r pentref, felly daeth criw o bobl at ei gilydd i geisio meddwl am gynllun i adfywio'r hen adeilad a chynnig rhywbeth newydd i'r gymuned. 

Felly, sefydlwyd Cymdeithas Budd Cymunedol gan griw o wirfoddolwyr, i sicrhau fod yr adeilad yn aros yn nwylo'r gymuned, er lles y gymuned. Yn 2016 prynwyd y siop gyda arian a godwyd gan y gymuned ac yna yn 2019 prynwyd ail adeilad ar y safle, i achub adeilad gwreiddiol arall.

Bu sawl ymgynghoriad a'r bobl leol er mwyn darganfod beth yn union oedd y galw yn Nyffryn Nantlle ac o ganlyniad fe grewyd cynllun busnes manwl ar gyfer y safle. 

Dros 3 mlynedd cododd Siop Griffiths Cyf £900,000. Mae'r arian wedi adnewyddu 3 adeilad ac wedi agor caffi, llety, ystafell aml-bwrpas, swyddfeydd a chanolfan digidol i blant a phobl ifanc. Mae sawl prosiect cymunedol ar y safle hefyd, sy'n defnyddio degau o wirfoddolwyr i gyflawni budd cymunedol y fenter.

Ein cam nesaf ydy adnewyddu'r hen stablau tu ol i'r prif adeilad i greu mwy o ystafelloedd aros a sied feics i'n beiciau trydan. 

Mae tim Yr Orsaf wedi newid a thyfu ers cyflogi'r aelod cyntaf o staff yn 2019, ac erbyn hyn mae 9 aelod yn gweithio i'r fenter, unai yn llawn neu'n rhan amser. Mae'r caffi'n cael ei redeg gan unigolyn annibynnol ac yntau sy'n gyfrifol am staff y caffi. 

Mae'r grwp o wirfoddolwyr a sefydlodd y fenter yn dal i weithio'n galed tu ol i'r llen ac yn cyfarfod yn fisol i drafod datblygiadau, materion sy'n codi a chynlluniau ar gyfer y dyfodol. 

Er bod gennym rhywfaint o incwm erbyn hyn o ganlyniad i lwyddiant ein llety, mae natur y fenter yn golygu bod angen parhau i ymgeisio am grantiau a chyllid er mwyn sicrhau dyfodol y staff.

Mae'r Orsaf wedi dod a bywyd yn ol i'r hen adeilad ac o'r diwedd yn gallu cynnig rhywbeth gwerthfawr yn ol i'r gymuned unwaith eto. 

Staff Yr Orsaf

Greta

Greta

Cydlynydd Hwb Cymunedol
Mae Greta’n canolbwyntio ar ddarparu cyngor, cefnogaeth a sesiynau penodol i helpu pobl Dyffryn Nantlle, yn enwedig wrth wynebu heriau costau byw. Ebost: [email protected]

Elenid

Elenid

Cydlynydd Trafnidiaeth Cymunedol
Mae Elenid yn gyfrifol am ein gwasanaeth trafnidiaeth werdd ‘O Fama i Fana’ gan drefnu cludiant i apwyntiadau neu ddigwyddiadau yn ogystal â'n busnes beics trydan. Mae hi hefyd yn trefnu sesiynau cymdeithasu i bobl hŷn y gymuned. Ebost: [email protected]

Llio

Llio

Swyddog Gweinyddol
Mae Llio’n gyfrifol am ddarparu cymorth gweinyddol gan gynnwys diweddaru cyfrifon holl brosiectau’r Orsaf yn ogystal â ymateb i ymholiadau’r llety. Ebost: [email protected]

Gwenllian

Gwenllian

Hwylusydd Bwyd a Lles
Mae Gwenllian yn datblygu mannau gwyrdd cymunedol lleol, gan greu cyfleoedd bwyd a lles ym Mhenygroes a Dyffryn Nantlle. Ebost: [email protected]

Osian

Osian

Swyddog Marchnata
Mae Osian yn gyfrifol am greu ein deunydd marchnata gan gynnwys hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol, ysgrifennu’r newyddlen misol a chreu ffilmiau fer.

Alex

Alex

Gyrrwr Trafnidiaeth Cymunedol
Alex yw gyrrwr ein cerbydau trydan sy’n cludo pobl i apwyntiadau, siopa neu ddigwyddiadau fel rhan o’n gwasanaeth trafnidiaeth cymunedol werdd.

Caryl

Caryl

Glanhawraig
Caryl sy’n sicrhau bod ystafelloedd y llety (Dulyn, Silyn a Llifon) yn lân a thaclus rhwng gwesteion.

Aelodau'r Bwrdd

Aelodau'r Bwrdd

Aelodau'r Bwrdd
Yn ogystal â'r staff, mae'r grŵp o wirfoddolwyr a sefydlodd y fenter yn aelodau o'r Bwrdd ac yn dal i weithio'n galed tu ôl i'r llen gan gynnal cyfarfodydd misol i drafod datblygiadau, unrhyw faterion sy'n codi a chynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae ymroddiad y pwyllgor yn holl bwysig i rediad y fenter ac mae eu hangerdd tuag at sicrhau ffyniant y gymuned yn heintus.

Ein Arianwyr

  • Cronfa Datblygu Cymunedau Gwledig
  • Llywodraeth Cymru
  • Loteri Cymunedol
  • Trusthouse Charitable Foundation
  • CIST Gwynedd
  • Arloesi Gwynedd Wledig
  • Tesco Bags of Help
  • Ymddiriedolaeth Stadiwm y Mileniwm
  • Mantell Gwynedd
  • Cronfa Iwan Huws
  • Sefydliad Rank
  • Cronfa Gofal Canolraddol
  • Sefydliad Cymunedol Cymru
  • Arfor

Eisiau’r newyddion diweddaraf?

Hoffech chi glywed am y newyddion diweddaraf gan Yr Orsaf? Tanysgrifiwch i dderbyn ein newyddlen drwy ebost.

Gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut rydym yn trin eich gwybodaeth darllenwch ein polisi preifatrwydd.