Cyswllt

Sut i’n ffeindio ni

Mae pentref Penygroes yng Ngwynedd, Gogledd Cymru. Gyda 6.5 milltir rhwng Penygroes a thref Caernarfon, 13 milltir o bentref Llanberis, 13 milltir o dref Porthmadog, ac 15 milltir o ddinas hynaf Cymru- Bangor, mae Penygroes yn leoliad canolog i nifer o atyniadau’r ardal. Mae’r pentref yng nghalon ardal chwarelyddol lechi Dyffryn Nantlle ac yn un o ardaloedd Cymreicaf Cymru, ar ffîn Parc Cenedlaethol Eryri.

Ceir gorsafoedd trên ym Mangor a Phorthmadog sy’n llai na hanner awr i ffwrdd, gyda bws T2 yn cysylltu Penygroes gyda'r trefi, yn ogystal â Chaernarfon, 15 munud i ffwrdd.

Siop Griffiths Cyf., Storfa Muriau, Heol Y Dŵr, Penygroes, Gwynedd LL54 6LP

07529 224989

Llun Dyffryn Nantlle gan Geraint Thomas, Panorama Cymru

Eisiau’r newyddion diweddaraf?

Hoffech chi glywed am y newyddion diweddaraf gan Yr Orsaf? Tanysgrifiwch i dderbyn ein newyddlen drwy ebost.

Gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut rydym yn trin eich gwybodaeth darllenwch ein polisi preifatrwydd.