Dyma ddigwyddiadau sydd ar y gweill. Os hoffech weld rywbeth penodol yn digwydd yn Yr Orsaf neu yn y gymuned rhowch wybod i ni!
15 / 06 / 2022
Clwb codio i blant a phobl ifanc rhwng 8-16 oed. Dewch i ddysgu sut i godio! I gadw lle neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch a Osian: [email protected]
Amser: 17:00- 18:30, bob Dydd Mercher
Lleoliad: Canolfan Digidol Yr Orsaf
Os oes gennych fore tawel canol wythnos ac yn edrych am rywbeth i 'neud, dewch i ymuno a'n sesiwn garddio! Mae AM DDIM ac yn gyfle i gymdeithasu a mwynhau'r awyr agored. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a Gwenllian: [email protected]
Amser: 11:00-13:00, bob Dydd Mercher
Lleoliad: Gardd Wyllt Penygroes (wrth yml y Co-op)
17 / 06 / 2022
Dewch a bag a helpwch eich hunain i fwyd sydd dros ben o'r archfarchnadoedd lleol, AM DDIM. Mae'r Pantri Cymunedol yn un elfen o'n Prosiect Dim Gwastraff sy'n canolbwyntio ar leihau gwastraff bwyd a chefnogi pobl leol sy'n dioddef o dlodi bwyd ac amddifadedd incwm. Croeso cynnes i bawb.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a Gwenllian: [email protected]
Amser: 16:00- 17:00, bob Dydd Gwener
Lleoliad: Caffi Yr Orsaf
21 / 06 / 2022
Sesiwn jamio i oedolion! Cyfle i chwarae offerynnau a chymdeithasu, AM DDIM. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a Osian: [email protected]
Amser: 19:00-20:00, dydd Mawrth
Dewch am banad, cacan a sgwrs i Neuadd Goffa Penygroes, AM DDIM. I oedolion dros 60. Am fwy o wybodaeth ac i gadw'ch lle, cysylltwch a Elenid: [email protected]
Amser: 14:00-16:00, Dydd Mawrth
Lleoliad: Neuadd Goffa Penygroes
25 / 06 / 2022
30 / 06 / 2022
Bob dydd Iau rydym yn cynnal gweithdai cerddoriaeth i bobl ifanc. Cyfle i ddysgu , chwarae ac arbrofi hefo offerynnau. I gadw lle neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch a Osian: [email protected]
Amser: 17:00-18:00 (Oedran 8-13) , 18:00-19:30 (Oedran 14-16), Dydd Iau
Argraffwyd o www.yrorsaf.cymru ar 16/08/2022 19:39:20.
Siop Griffiths Cyf., Storfa Muriau, Heol Y Dŵr, Penygroes, Gwynedd LL54 6LWFfôn: 07410 982467E-bost: [email protected]