Prosiectau Cymunedol

Er lles y gymuned

Fel rhan o'n budd cymunedol rydym yn cynnig cymysg o brosiectau a gweithgareddau celfyddydol, amgylcheddol a lles sy'n helpu, cefnogi a datblygu potensial pobl leol a'u cymunedau.

Hwb Cymunedol

Bwriad yr Hwb Cymunedol ydi darparu cyngor, cefnogaeth a gweithgareddau i helpu trigolion Dyffryn Nantlle, yn enwedig wrth wynebu heriau costau byw.

Gyda chymorth ein partneriaid sy'n cynnwys gwasanaethau eraill o fewn yr ardal, rydym yn ceisio ateb anghenion ein cymuned er mwyn helpu pobl i fyw bywyd da. Gellir cysylltu a Greta a Llio i gael cymorth ar ystod eang o faterion gan gynnwys: tlodi tanwydd, tlodi ariannol, tlodi bwyd, cynhwysiad digidol, unigedd a digwyddiadau cymdeithasol, bod yn weithgar yn y gymuned, anabledd, cael mynediad i wasanaethau statudol a mwy.

Prosiect Trafnidiaeth Cymunedol - O Fama i Fana

Prosiect sy'n cefnogi trigiolion sy'n wynebu rhwystrau oherwydd diffyg trafnidaieth gyhoeddus yn y Dyffryn. Mae 3 cerbyd trydan, bws mini, car 7 sedd a char 4 sedd, sy'n cael eu defnyddio i gludo pobl, mewn ffordd gynaliadwy o drafeilio. Mae ein Swyddog Trafnidiaeth Cymunedol, Elenid, yn cydlynu'r prosiect, trwy gydweithio efo Partneriaeth Trafnidaeth Gymunedol Dyffyrn Nantlle. Ariennir gan Lywodraeth Cymru ac arian Ewrop. Rhaid ffonio neu ebostio i drefnu trafnidiaeth - 07596 325 496

Pantri Dyffryn Nantlle

Agorwyd ym mis Medi 2024 yn yr hen swyddfa bost yn Penygroes, mae'r Pantri yn gartref i brosiectau bwyd Yr Orsaf; Cegin Piclo, Garddio gyda'n Gilydd, dosbarthu Bwyd Dros Ben, gweithdai coginio a llawer mwy! Pwyslais y gofod a'n gwelediad ydi i gryfhau ein cyswllt hefo cynnyrch lleol, rhannu sgiliau a lleihau gwastraff bwyd. Mae hefyd Siop sy'n gwerthu cynnyrch lleol ar agor dyddiau Iau a Gwener, dewch draw i cael golwg. 

Prosiectau Celf

Mae gweithdai celf Dyffryn Nantlle 2020 yn cynnig cyfle i blant a phobl ifanc i weithio gydag artistiaid lleol. Fel arfer mae'r gweithgaredd yn datblygu sgiliau, ac ar yr un pryd un dathlu hanes a diwylliant yr ardal.

Ynni Lleu

Mae Ynni Lleu yn gwmni buddiant cymunedol (CIC) sydd wedi ei sefydlu i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth gymunedol, er mwyn sicrhau bod budd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yr ynni yn aros yn lleol. Rydym wedi amlinellu potensial ar gyfer prosiectau solar, gwynt a hydro yn Nyffryn Nantlle. Gan gyd-weithio gyda Yr Orsaf a'r gymuned, ein nod yw i ddatblygu prosiectau i'r cam nesaf. Rydym yn awyddus iawn i ddatblygu prosiectau ar y cyd, felly os oes gennych syniadau neu yn awyddus i gyd-weithio cysylltwch [email protected]

GwyrddNi

Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu ar newid hinsawdd gymunedol. Yr Orsaf yw partner Dyffryn Nantlle Gwyrdd Ni, a Sion Hywyn ydri'r swyddog. Rydym yn cefnogi grwpiau i greu cymunedau mwy bywiog, gwyrdd a gwydn, gan ganolbwyntio ar bynciau fel ynni, trafnidiaeth, tai, bwyd, gwastraff, byd natur a rhannu sgiliau ac adnoddau. 

Canolfan Treftadaeth a Chelf

Mae hanes, diwylliant, iaith a thirwedd yn bwysig i bobl Dyffryn Nantlle. Dyna pam, fel ardaloedd llechi eraill yng Ngwynedd, mae ganddi Statws Treftadaeth y Byd. Mae’r Orsaf eisiau creu Canolfan Treftadaeth a Chelf, rhywle lle gall trigolion ac ymwelwyr ddathlu ein treftadaeth, trwy weithgareddau celf, gan weithio efo plant, pobl ifanc a’r gymuned i greu ein stori ar gyfer y dyfodol.  Mae cefnogaeth y gymuned yn bwysig iawn, i brynu adeiladau yn ogystal â chynnal gweithgareddau o ddydd i ddydd. Rydym yn y broses o geisio am grantiau yn dilyn casglu arian cyfatebol i brynnu'r hen fferyllfa, felly cadwch golwg allan am newyddion!

Twristiaeth Gymunedol

Prosiect sy'n archwilio pa fudd mae cymunedau o ardal dyffrynnoedd Ogwen, Ffestiniog, Nantlle a Chonwy am ei gael o dwristiaeth yn y dyfodol yn yr ardal o amgylch Llwybr Llechi Eryri. Cynhelir y prosiect i ddechrau am ddeuddeg mis rhwng 24 Hydref a 25 Medi.

Prosiect blaenorol: Dathlu cyfoeth hanes, diwylliant, iaith a thirwedd yw prif nod y prosiect. Rydym wedi creu adnoddau y gall trigolion lleol ac ymwelwyr eu defnyddio i ddeall mwy a gwerthfawrogi'r ardal. Mae mwy o fanylion fan hyn am rai o'r teithau yn yr ardal: https://llwybraunantlle.wordpress.com/

Caffi Trwsio

Mae'r Caffi Trwsio ymlaen ar ddydd Sadwrn olaf pob mis, o 10:00yb tan 12:00yh, yn Caffi'r Orsaf yn Penygroes. Rydym yn cynnig gwasanaeth cymorth gyda trwsio syml gan ein gwirfoddolwyr. 

Baneri Bro

Fel rhan o ymrwymiad i'r celfyddydau a gwella golwg y stryd fawr, mae baneri yn cael eu gosod am 8 mis y flwddyn, sy'n dathlu hanes, iaith, diwylliant, tirwedd a llawer mwy am yr ardal. Yng nghardd Caffi'r Orsaf mae paneli arddangosfa, sy'n esbonio'r stori tu ôl pob faner.

Canolfan Digidol

Mae'r Ganolfan Digidol yn darparu gweithdai ffilm, codïo, podlediadau a chelf digidol i blant a phobl ifanc. Mae amrywiaeth o offer ar gael yn y ganolfan gan gynnwys ipads, chromebooks, offer recordio sain a camerâu i enwi rhai. Mae'n bosibl llogi'r ganolfan i grwpiau gan arbrofi a defnyddio’r offer. Cysylltwch â [email protected] am fwy o fanylion.

Eisiau’r newyddion diweddaraf?

Hoffech chi glywed am y newyddion diweddaraf gan Yr Orsaf? Tanysgrifiwch i dderbyn ein newyddlen drwy ebost.

Gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut rydym yn trin eich gwybodaeth darllenwch ein polisi preifatrwydd.