Telerau Defnydd y Wefan

Mae’r wefan hon wedi’i darparu gan:

Siop Griffiths Cyf.
Storfa Muriau
Heol Y Dŵr
Penygroes
Gwynedd
LL54 6LW

Diffiniadau

  1. Bydd cyfeiriadau ar y wefan hon, ac yn y telerau defnydd, at:
    1. "ein safle" yn golygu y wefan hon ar yrorsaf.cymru; ac;
    2. ystyr "ni" neu "ein" fydd Siop Griffiths Cyf.; ac;
    3. ystyr "chi" neu "eich" fydd defnyddiwr ein safle. Os ydych yn defnyddio ein safle yn eich capasiti fel cyflogai, cyfarwyddwr, swyddog, partner neu asiant i endid corfforaethol neu anghorfforaethol bydd "chi" ac "eich" yn cyfeirio atoch chi’n bersonol.
  2. Mae defnydd o’n safle’n cynnwys cyrchu, pori neu (os yw’n berthnasol) cofrestru arni, neu brynu ganddi.

Hysbysiadau Cyffredinol

Mae eich defnydd o’n gwefan a’r dogfennau, y ffeiliau a gwybodaeth arall sydd ar gael drwyddi yn amodol ar y telerau defnydd canlynol. Trwy ddefnyddio ein safle rydych yn cadarnhau eich bod yn derbyn y telerau defnydd ac yn cytuno i gadw atynt; os na fyddwch, neu na allwch gytuno â’r telerau defnydd yna rhaid i chi beidio â defnyddio ein safle.

  1. Mae ein safle ar gael am ddim.
  2. Cadwn yr hawl ar unrhyw amser i ddileu neu atal ein holl wefan, neu ran ohoni, neu unrhyw gynnwys ar ein gwefan heb rybudd a heb unrhyw atebolrwydd.
  3. Efallai y byddwn yn diweddaru ein safle ar unrhyw amser, fodd bynnag nid oes rheidrwydd arnom i sicrhau bod gwybodaeth sy’n cael ei harddangos ar ein safle, na’r dogfennau, y ffeiliau a gwybodaeth arall sydd ar gael trwyddi yn gyfredol.
  4. Ni allwn warantu y bydd ein safle’n gweithio’n ddi-dor nac yn rhydd o unrhyw wallau neu hepgorion.
  5. Nid oes unrhyw beth yn ein safle, na’r dogfennau, y ffeiliau a gwybodaeth arall sydd ar gael yn gyfystyr â chyngor cyfreithiol neu broffesiynol ac ni ddylid dibynnu arni fel y cyfryw.
  6. Mae’r wybodaeth sy’n cael ei harddangos ar ein gwefan, a’r dogfennau, y ffeiliau a gwybodaeth arall sydd ar gael drwyddi’n cael ei darparu heb unrhyw sicrwydd na gwarantau ynglŷn â’i chywirdeb. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw ddifrod neu golled, boed yn uniongyrchol neu’n ganlyniadol, a achosir drwy ddefnyddio ein safle, trwy ddibynnu ar unrhyw wybodaeth sydd ar ein safle, neu unrhyw safleoedd gwe sy’n gysylltiedig â’n safle.
  7. Cadwn yr hawl i newid y telerau defnydd hyn ar gyfer ein safle ar unrhyw adeg. Bydd unrhyw newid o’r fath yn y telerau defnydd yn weithredol unwaith yr adlewyrchir hynny yn nhestun y telerau defnydd a’u cyhoeddi ar y dudalen we hon.
  8. Rheolir y telerau defnydd hyn gan Gyfraith Cymru a Lloegr, ac rydych yn cytuno y bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o dan y Telerau ac Amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdod neilltuedig llysoedd Cymru a Lloegr.

Eiddo Deallusol

  1. Rydym ni a’n cyflenwyr yn berchen ar yr hawliau eiddo deallusol yng nghynnwys ein safle a’r feddalwedd sy’n rhedeg ein safle.
  2. Ni chaniateir i chi gopïo nac ymgorffori, na storio yn, unrhyw wefan arall, system adfer electronig, cyhoeddiad neu waith arall, unrhyw gynnwys o’n safle ar unrhyw ffurf (boed yn gopi caled neu electronig).
  3. Caniateir i chi lawrlwytho rhannau ac argraffu un copi caled o unrhyw ran o gynnwys cyhoeddus ein safle i gyfeirio ato’n bersonol yn unig.
  4. Ni ddylech addasu copïau copi caled neu ddigidol yr ydych wedi’u hargraffu neu lawrlwytho.
  5. Ni ddylech ddefnyddio unrhyw ran o’r deunyddiau (yn cynnwys ond heb ei gyfyngu i’r testun, dyluniadau, graffeg, lluniau, ffotograffau, fideo a sain) ar ein safle i ddibenion masnachol heb yn gyntaf ofyn am ein caniatâd ni a’n cyflenwyr.
  6. Os byddwch yn torri’r ddarpariaeth hon bydd eich hawliau i ddefnyddio ein safle’n cael eu dileu’n syth, ac mae'n bosibl y byddwn yn gofyn i chi ddychwelyd neu ddinistrio (ar sail ein disgresiwn) unrhyw gopïau o ddeunyddiau yr ydych wedi’u hargraffu neu lawrlwytho.

Cysylltu â’n Safle

  1. Caniateir i chi gysylltu ag unrhyw dudalen gyhoeddus o’n safle o unrhyw safle sy’n eiddo i chi ar yr amod bod eich cysylltau’n deg a chyfreithlon ac nid mewn ffordd a allai wneud niwed neu fanteisio ar ein henw da.
  2. Ni ddylai unrhyw gysylltau awgrymu unrhyw fath o gysylltiad neu gymeradwyaeth ar ein rhan pan nad yw’n bodoli.
  3. Ni chaniateir i chi fframio unrhyw ran o’n safle.
  4. Cadwn yr hawl i dynnu caniatâd yn ôl am gysylltau heb rybudd, a gofyn i chi ddileu cysylltau presennol.

Cysylltau â Gwefannau Eraill

  1. Mae ein safle’n darparu cysylltau i safleoedd trydydd parti; darperir y cysylltau hyn er gwybodaeth yn unig ac nid yw eu cynnwys yn awgrymu ein bod yn cymeradwyo’r gwefannau hynny, nac yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y cynnwys ar y gwefannau hynny, nac am unrhyw ddifrod neu golled a allai ddeillio o’ch defnydd ohonynt.
  2. Mae'n bosibl y byddwch yn agored i wahanol delerau defnydd a pholisïau preifatrwydd sy’n berthnasol i wefannau’r trydydd partïon hynny ac fe’ch cynghorir i wirio eu polisïau.

Firysau a Throseddau Cyfrifiadurol

  1. Ein polisi yw gwirio dogfennau a ffeiliau i sicrhau nad oes firysau arnynt cyn eu rhoi ar ein safle. Fodd bynnag ni allwn warantu y bydd dogfennau neu ffeiliau a gaiff eu lawrlwytho o’n safle heb firysau arnynt ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddifrod neu golled a achosir gan unrhyw firws neu ddeunydd sy’n gwneud niwed technolegol a allai amharu ar eich offer technoleg gwybodaeth wrth ddefnyddio ein safle. Yn unol â hyn, er mwyn eich diogelwch eich hun, rhaid i chi ddefnyddio meddalwedd gwrth firws wrth ddefnyddio ein safle ac rydych yn gyfrifol am gyflunio eich offer technoleg gwybodaeth eich hun.
  2. Caniateir i chi ddefnyddio ein safle i ddibenion cyfreithiol yn unig, ac ni fyddwch yn gwneud unrhyw un o’r canlynol:
    1. difenwi, cam-drin, aflonyddu, bygwth neu dorri mewn unrhyw ffordd arall hawliau cyfreithiol eraill (megis hawliau preifatrwydd neu hawliau eiddo deallusol);
    2. cyhoeddi, postio, dosbarthu neu rannu unrhyw ddeunydd sy’n wrthun, anweddus neu anghyfreithlon;
    3. dileu unrhyw ddeunydd a briodolir i awdur neu hysbysiadau cyfreithiol sydd ynddi, neu ffugio tarddiad neu ffynhonnell, unrhyw ddogfen neu ffeil a bostiwch ar ein gwefan neu a ddarperir i ni drwy ein gwefan;
    4. postio ar ein gwefan neu ddarparu i ni trwy ein gwefan ddogfennau neu ffeiliau sy’n cynnwys meddalwedd neu ddeunydd arall a ddiogelir gan gyfraith eiddo deallusol (neu hawliau cyfrinachedd neu breifatrwydd, lle y bo’n berthnasol) oni bai eich bod yn eiddo ar yr hawliau neu’n eu rheoli neu wedi derbyn unrhyw ganiatâd angenrheidiol;
    5. postio ar ein gwefan neu ddarparu i ni trwy ein gwefan ddogfennau neu ffeiliau sy’n cynnwys firysau, ffeiliau llwgr neu unrhyw feddalwedd neu raglenni tebyg arall (megis maleiswedd, mwydod, ceffylau trojan neu bots) gyda’r bwriad o achosi difrod i galedwedd neu feddalwedd ein cyfrifiadur ni neu eraill;
    6. cael mynediad anawdurdodedig i’n safle, y gweinydd y mae'n cael ei westeia arno, neu unrhyw weinydd neu gronfa ddata arall sy’n gysylltiedig ân safle;
    7. ymosod ar ein safle drwy ymosodiad DoS neu DDoS.

Byddai torri'r ddarpariaeth hon yn dramgwydd troseddol o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990, bydd yn arwain at dynnu’n ôl yn syth ein hawliau i ddefnyddio ein safle, a bydd yn cael ei adrodd i’r awdurdodau gorfodi'r gyfraith perthnasol.

Diogelu Data, Preifatrwydd a Chwcis

  1. Am fwy o wybodaeth am breifatrwydd, casglu a phrosesu data, a marchnata, darllenwch ein tudalen polisi preifatrwydd a chwcis.
  2. Mae ein safle’n defnyddio cwcis, am fwy o wybodaeth yn cynnwys sut i ddileu ac analluogi cwcis darllenwch ein tudalen polisi preifatrwydd a chwcis.

Cysylltu â Ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau’n ymwneud â’r telerau defnydd hyn neu unrhyw gynnwys ar ein safle cysylltwch â ni trwy ebostio [email protected].

--

Diweddarwyd y telerau defnydd hyn ddiwethaf ar 27 Mai 2021.

Eisiau’r newyddion diweddaraf?

Hoffech chi glywed am y newyddion diweddaraf gan Yr Orsaf? Tanysgrifiwch i dderbyn ein newyddlen drwy ebost.

Gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut rydym yn trin eich gwybodaeth darllenwch ein polisi preifatrwydd.